SL(6)231 - Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae’r Cynllun noddi Cartrefi i Wcráin yn darparu llwybr i’r rhai yr effeithir arnynt gan y gwrthdaro yn Wcráin ddod i’r DU os oes ganddynt noddwr a enwir a all ddarparu llety iddynt. 

Diben Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Diwygiadau sy’n Ymwneud â Diystyriadau Disgownt ac Anheddau Esempt) (Cymru) 2022 (y “Rheoliadau”) yw sicrhau na fydd aelwydydd sy’n lletya unigolion o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin (“unigolyn perthnasol o Wcráin”) ar eu colled o ran disgowntiau neu esemptiadau y dreth gyngor o ganlyniad i gartrefu pobl ychwanegol.

At ddibenion cyfrifo'r dreth gyngor, caiff rhai dosbarthiadau o bobl eu 'diystyru'.  Mae hyn yn golygu nad ydynt yn cael eu cyfrif wrth gyfrifo faint o bobl sy'n byw mewn eiddo. Mae hyn yn berthnasol wrth benderfynu a yw cartrefi yn gymwys i gael disgownt ar eu biliau treth gyngor. Er mwyn sicrhau nad yw unigolyn perthnasol o Wcráin yn effeithio ar statws treth gyngor ei noddwyr, mae Rheoliad 2 o’r Rheoliadau yn diwygio Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Darpariaethau Ychwanegol ar gyfer Diystyriadau Disgownt) 1992 i ddiystyru unigolion o'r fath.

At hynny, mae rhai anheddau (megis cartrefi a feddiennir gan fyfyrwyr yn unig) yn esempt rhag talu'r dreth gyngor.  Mae anheddau o'r fath wedi'u rhestru yng Ngorchymyn y Dreth Gyngor (Anheddau Esempt) 1992 (y “Gorchymyn Anheddau Esempt”). Mae Rheoliad 3 o'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Gorchymyn Anheddau Esempt i sicrhau na chollir esemptiad presennol pan fo aelwyd yn lletya person perthnasol o Wcráin.

Mae Asesiad Effaith Rheoleiddiol, a amlinellir yn y Memorandwm Esboniadol, wedi’i gynnal mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn. 

Gweithdrefn

Negyddol

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd.  Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd. 

Materion technegol: craffu

Nodwyd y pwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

1. Rheol Sefydlog 21.2(v) - bod angen eglurhad pellach ynglŷn â'i ffurf neu ei ystyr am unrhyw reswm penodol.

Mae’r Nodyn Esboniadol yn nodi bod y Rheoliadau hyn yn diwygio’r Gorchymyn Anheddau Esempt i:

“[…] ddarparu bod esemptiadau sy’n ymwneud ag anheddau a feddiennir pan fo unigolion a dderbynnir i’r Deyrnas Unedig o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin yn preswylio mewn anheddau o’r fath yn Lloegr hefyd yn gymwys i anheddau yng Nghymru.

Nid yw’n glir pam mae Rheoliad 3(4) o’r Rheoliadau hyn yn mewnosod y geiriau “yn Lloegr” yn Erthygl 2(3A) o'r Gorchymyn Anheddau Esempt mewn perthynas â Chymru. 

Mae erthygl 2(3A) yn darparu bod meddiannaeth gan unigolyn perthnasol o Wcráin i’w ddiystyru wrth ystyried a yw annedd wedi’i ‘meddiannu’ mewn perthynas ag un ar ddeg dosbarth o anheddau (B, D, E, F, H, I, J, K, L, Q a T) yn erthygl 3 o'r Gorchymyn Anheddau Esempt.

Nid yw’r rhesymeg dros gyfyngu’n benodol ar erthygl 2(3A) i Loegr wedi’i hegluro ac mae’n ymddangos yn groes i’r nod polisi ymddangosiadol yn y Nodyn a’r Memorandwm Esboniadol.  Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

Rhinweddau: craffu    

Nodwyd y ddau bwynt a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â’r offeryn hwn:

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi y bydd y Rheoliadau hyn yn sicrhau:

“[…] nad yw aelwydydd lletyol sy'n cynnig llety i bobl o Wcráin o dan y ‘Cynllun Cartrefi i Wcráin’ yn mynd i unrhyw gostau treth gyngor ychwanegol”. (pwyslais wedi'i ychwanegu)

Nid yw’r rhesymeg dros gyfyngu’r Rheoliadau hyn i unigolion a noddir o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin wedi’i hegluro yn y Memorandwm Esboniadol.

O dan y 'Cynllun Wcráin Atodol'i’r Rheolau Mewnfudo, gall pobl y mae’r gwrthdaro yn Wcráin yn effeithio arnynt fod yn gymwys i gael caniatâd i ddod i’r DU o dan y cynlluniau a ganlyn:

·         Cynllun Cartrefi i Wcráin - mae’n caniatáu i wladolion Wcráin ac aelodau o'u teulu ddod i'r DU os oes ganddynt noddwr a enwir a all ddarparu llety iddynt am o leiaf chwe mis; a'r

·         Cynllun Teuluoedd o Wcráin – mae’n caniatáu i wladolion Wcráin ymuno ag aelodau teulu o’r DU, neu ymestyn eu harhosiad yn y DU.

Ar lefel y DU ar 28 Mehefin 2022, roedd cyfanswm o 98,400 o fisâu wedi'u cyhoeddi o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin, a 44,100 o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin.

Fel y'i drafftiwyd, mae'r Rheoliadau hyn yn ymestyn i aelwydydd sy'n lletya pobl o dan y Cynllun Cartrefi i Wcráin, ond nid i'r rhai sy'n cael eu lletya o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin.  Yn ymarferol, mae hyn yn golygu y gallai aelwydydd sy’n lletya aelodau ychwanegol o’r teulu o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin golli esemptiadau a disgowntiau presennol ar gyfer y dreth gyngor.

Gofynnir i Lywodraeth Cymru egluro pam nad yw’r Rheoliadau hyn yn ymestyn i’r rhai sydd â chaniatâd i ddod i’r DU o dan y Cynllun Teuluoedd o Wcráin.

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Mae paragraff olaf y Nodyn Esboniadol i’r Rheoliadau hyn yn datgan, ar ôl ystyried Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar gynnal Asesiadau Effaith Rheoleiddiol:

            “[…] ystyriwyd nad oedd yn angenrheidiol cynnal asesiad effaith rheoleiddiol […]

Fodd bynnag, cynhaliwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â’r Rheoliadau hyn.  Fe’i nodir ym mharagraff 6 (ac is-baragraffau dilynol) y Memorandwm Esboniadol.  

Er nad yw'r Nodyn Esboniadol yn rhan o'r Rheoliadau, gallai'r anghysondeb hwn fod yn gamarweiniol.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb Llywodraeth Cymru mewn perthynas â’r pwynt adrodd technegol, a’r ddau bwynt rhinweddau.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

04 Gorffennaf 2022